Atnaujinkite slapukų nuostatas

Dafydd Ap Gwilym - Y Gr sydd yn ei Gerddi [Minkštas viršelis]

  • Formatas: Paperback / softback, 144 pages, aukštis x plotis: 1x1 mm, Lluniau lliw llawn
  • Išleidimo metai: 28-Mar-2013
  • Leidėjas: Cyhoeddiadau Barddas
  • ISBN-10: 1906396574
  • ISBN-13: 9781906396572
Kitos knygos pagal šią temą:
  • Formatas: Paperback / softback, 144 pages, aukštis x plotis: 1x1 mm, Lluniau lliw llawn
  • Išleidimo metai: 28-Mar-2013
  • Leidėjas: Cyhoeddiadau Barddas
  • ISBN-10: 1906396574
  • ISBN-13: 9781906396572
Kitos knygos pagal šią temą:
A volume offering an introduction to one of the most colourful characters of Welsh literature, and celebrating the contribution of one of the most dazzling poets of the 14th century. We are drawn closer to the life and times of Dafydd ap Gwilym through paraphrases of his own words and the visual content of the book. -- Cyngor Llyfrau Cymru

Recenzijos

Amcan y gyfrol fach hon yw cyflwyno barddoniaeth Dafydd ap Gwilym i ddarllenwyr newydd, a does neb gwell i wneud hynny na Gwyn Thomas. Mae gan Gwyn ddawn arbennig i egluro materion dyrys yn gryno a dod ā llenyddiaeth y gorffennol yn fyw trwy ddal ar hanfod y profiad dynol digyfnewid. Ac mae ei arddull anffurfiol, rwydd yn creur argraff o lais yn sgwrsion hamddenol, gan ddenur darllenydd i rannu ei fwynhad. Maer llyfr hwn yn fwy na darllenadwy; mae bron yn glywadwy.

Ac mae gwedd weledol y llyfr yn ddeniadol iawn hefyd. Mae golygydd Cyhoeddiadau Barddas, Elena Gruffudd, ar dylunydd Olwen Fowler yn haeddu clod am greu diwyg hardd syn cydweddun berffaith ār pwnc. Cynhwysir nifer o luniau bach o lawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru trwy gynllun DigiDo, ac maer rhain yn addas iawn i gyd-fynd ā cherddi sydd ag elfen weledol mor gryf.

Addas hefyd ywr pwyslais ar adnabod y gr yn y cerddi, gan mair argraff o bersonoliaeth y bardd ywr peth mwyaf deniadol am gerddi Dafydd ap Gwilym i lawer o ddarllenwyr modern. Fen hatgoffir yn gyson, ac yn hollol briodol, mai persona bwriadus a welir ac nid crėwr y cerddi ei hun, ond gyda hynny o rybudd mae Gwyn yn ei elfen yn adnabod a chyflwynor gr difyr hwn inni. Crynhoir yr ychydig dystiolaeth sydd iw chael am fywyd Dafydd, ac yna trafodir nifer oi gerddi mwyaf nodedig. Ni ragdybir unrhyw wybodaeth am farddoniaeth y cyfnod, ac mae aralleiriadau yn gymorth i ddarllenwyr ddeall pob dyfyniad.

Efallai mai cyfrinach llwyddiant y gyfrol hon ywr ffordd y mae Gwyn Thomas yn ymuniaethu ā Dafydd ap Gwilym fel bardd; maer un hiwmor direidus ar un diléit mewn chwarae efo geiriau iw gweld yng ngwaith y ddau fardd, ar un blas ar fywyd wedii finiogi gan ymwybyddiaeth oi freuder. Mawr obeithiaf mair gyntaf mewn cyfres fydd hon, ac y cawn gyfrolau tebyg ar rai o fawrion eraill y traddodiad barddol, ond anodd fydd dod o hyd i awdur a gwrthrych syn gweddu cystal iw gilydd. -- Dafydd Johnston @ www.gwales.com

Bywyd y Bardd
Y Gwr a'i Grefft
Canu Dafydd
Meistrolaeth ar ei Grefft
Awen Beraidd
Bardd Serch
Rhwystrau
Canu Natur
Canu Crefyddol
Amser Dyn a Diwedd Dyn -- Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas