Gwyddom oll fod plant yn chwilfrydig au hawch i ddysgu yn ddiddiwedd. Wel, dymar llyfr perffaith i ddiwallur awch hwnnw! Mae gwybodaeth mor bwysig i blant i ddeall y byd au lle ynddo, ac mae croeso bob amser i wyddoniadur mor lliwgar a deniadol ā hwn.
Maer holl bynciau y byddech yn eu disgwyl mewn gwyddoniadur yma y ddaear ar gofod, y tywydd a'r tirwedd, mapiau a gwybodaeth am wledydd y byd, mamaliaid ac amffibiaid, deinosoriaid a hanes yr hen fyd, sut maer corff yn gweithio, yn ogystal ag ychwanegiadau difyr iawn megis rhifo a lluosi, arwyddion y Sidydd a horosgopaur Tsieineaid. Ceir yma ddigonedd o wybodaeth a ffeithiau i sicrhau sawl sesiwn bleserus o ddarllen gyda phlant, yn ogystal ā bod yn ddigon hwylus i fedru darganfod yr union dudalen wrth chwilio am bwnc arbennig.
Ond nid oes gormod o ffeithiau yma, chwaith, i orlethur darllen. Maer brawddegau byrion ar lluniau lu yn golygu bod y darllen yn rhwydd ac yn ddifyr, ac yn wir gall hefyd fod yn ymarfer darllen da ynddoi hun i ddarllenwyr hyderus chwech oed a hn.
Maer lluniau a gosodiad y tudalennau mor amrywiol a lliwgar, ac mae troi pob tudalen yn bleser i weld y cyfoeth gweledol gwahanol. Maer dyluniad yn sicr yn ychwanegu at y dysgu, er enghraifft gosod tyrau uchaf y byd yn ymyl ei gilydd i gymharu eu huchder, ar trac rasio in helpu i ddeall cyflymder creaduriaid. Mae amrywiaeth y teip ar defnydd amrywiol o brint trwm a phriflythrennau hefyd yn helpu i wneud y darllen yn haws.
Maer addasiad yn un clodwiw, ar Gymraeg yn llifon rhwydd a naturiol. Yr unig drueni, wrth gwrs, yw bod Cymru yn cael cam mewn gwyddoniadur cyffredinol fel hwn (map y Deyrnas Unedig sydd yma, e.e. ac nid un Cymru), a gwych o beth fyddai cael gwyddoniadur cystal yn sōn am yr holl bethau pwysig am Gymru. -- Gwenllļan Dafydd @ www.gwales.com