Atnaujinkite slapukų nuostatas

Hen Englynion - Diweddariadau: Diweddariadau [Minkštas viršelis]

  • Formatas: Paperback / softback, 160 pages, aukštis x plotis: 138x215 mm
  • Išleidimo metai: 17-Apr-2015
  • Leidėjas: Cyhoeddiadau Barddas
  • ISBN-10: 1906396744
  • ISBN-13: 9781906396749
Kitos knygos pagal šią temą:
  • Formatas: Paperback / softback, 160 pages, aukštis x plotis: 138x215 mm
  • Išleidimo metai: 17-Apr-2015
  • Leidėjas: Cyhoeddiadau Barddas
  • ISBN-10: 1906396744
  • ISBN-13: 9781906396749
Kitos knygos pagal šią temą:
The oldest stirct metre 'englynion' brought up-to-date, with a valuable introduction. Religious and nature poetry including proverbs are presented, together with 'englynion' linked with myths, in particular the three cycles of myth 'englynion': Canu Llywarch, Canu Urien and Canu Heledd. -- Cyngor Llyfrau Cymru

Recenzijos

Yn 1970 cyhoeddwyd y gyfrol arloesol Yr Aelwyd Hon gan olygyddiaeth Gwyn Thomas, oedd yn cynnwys diweddariadau o hen farddoniaeth Gymraeg gan Bedwyr Lewis Jones, Derec Llwyd Morgan a Gwyn Thomas ei hun, cyfrol sydd wedi bod wrth benelin sawl un wrth astudior Gymraeg yn mewn ysgol a phrifysgol. Dros ddeugain mlynedd yn ddiweddarach penderfynodd yr ysgolhaig droi yn ōl unwaith eto at ein barddoniaeth Gymraeg gynnar, y tro hwn gan ganolbwyntio ar y canu englynol cynnar: Mi ddechreuais feddwl, unwaith eto, ei bod hin bechod ei bod hin haws i ddarllenwr Cymraeg gael gafael ar fersiynau dealladwy or hen ganu hwn yn Saesneg nag yn Gymraeg. Ac am yr ail waith mi benderfynais geisio cyflwyno cyfran on hen ganu ni fel cenedl yn Gymraeg, meddai yn y Rhagarweiniad ir gyfrol.

Maer hen englynion sydd wedi eu diweddaru yn y gyfrol hon, dros deugain cyfres o englynion i gyd, iw cael mewn dwy brif lawysgrif, sef Llyfr Du Caerfyrddin (tua 1250) a Llyfr Coch Hergest (rhwng 1382 a thua 1405), ac yn cynnwys canu crefyddol, canu natur a gwireb ac englynion sydd ā chysylltiad ā chwedlau, ac yn benodol y tri phrif gylch o englynion chwedlau: Canu Llywarch Hen, Canu Urien a Chanu Heledd. Ystyrir y canu englynol hwn ymysg y cerddi canoloesol mwyaf apelgar i gynulleidfa fodern o safbwynt yr arddull uniongyrchol a hefyd eu cynnwys. Pwysleisia Gwyn Thomas mair un peth yn anad dim arall y ceisiodd ei wneud gydar diweddariadau newydd yma oedd sicrhau fod yna rythm yn y linellau. -- Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas Ar hyd ei yrfa, fe geisiodd yr Athro Gwyn Thomas ddehongli a symleiddior testunau llenyddol y bun ymdrin ā hwy ar gyfer y darllenydd cyffredin na chafodd y fraint o ddilyn cwrs gradd yn y Gymraeg rhoi testunaur gorffennol pell yn iaith heddiw a datgloir dirgelwch. Dyna oedd bwriad y gyfrol Yr Aelwyd Hon ddeugain a phump o flynyddoedd yn ōl, pan gyflwynodd ddiweddariadau or canu arwrol ac o beth o'r canu englynol yn 1970. Nawr fe gyhoeddir ei ddehongliad or canu englynol cynnar syn cwblhau canur cyfnod. Yr oedd yr englynion hyn ar gael yn Saesneg eisoes a bellach maent ar gael yn hwylus a hylaw yn Gymraeg.

Dosberthir y canu hwn i nifer o ddosbarthiadau: Canu Crefyddol, Canu Natur a Gwirebau, Englynion a fun rhan o chwedlau, Canu Llywarch Hen, Canu Urien, Canu Heledd, ac Englynion Cadwallon. Yn y rhagymadrodd ir cerddi trafodir y dehongli a fu arnynt o ddyddiau William Owen [ Pughe] hyd at argraffiad safonol Syr Ifor Williams a chyfraniadau nifer o ysgolheigion cyfoes. Trafodir y fydryddiaeth, sef y gwahanol fathau o englynion au nodweddion mydryddol, ynghyd ag ambell bwynt o ramadeg syn effeithio ar y canu. Dawr rhagymadrodd i ben gyda thrafodaeth ar awduraeth yr englynion a phwt byr ar oed y canu.

Maer hen ffefrynnau yma i gyd: Cān yr Henwr, Baglan Bren, Eiry Mynydd, Claf Abercuawg, Stafell Gynddylan, Eryr Pengwern, Y Dref Wen, ond yn ogystal ār rhain cynhwyswyd englynion eraill or cyfnod cynnar syn ymddangos yma ac acw yn y llawysgrifau, gan gynnwys Englynion y Juvencus; Englynion y Beddau; cyfresi a fu ar un adeg ynghlwm wrth chwedlau fel Chwedl Taliesin a hanes boddi teyrnas Gwyddno Garanhir, sef Cantrer Gwaelod; englynion syn gysylltiedig ā Chwedl Geraint fab Erbin or Mabinogion; Englynion Cadwallon; ynghyd ār gerdd hyfryd Cyntefin Ceinaf Amser.

Does dim posib peidio ā sōn am un englyn o blith englynion Canu Llywarch Hen, sef yr englyn Ir Ddeilen Hon, syn cynnwys un or llinellau mwyaf cofiadwy yn holl lenyddiaeth Cymru, llinell syn crynhoi byrder a breuder bywyd mor gryno ag syn bosib: Hi hen eleni ganed, neu a dyfynnur diweddariad: Mae hin hen eleni yi ganed (t. 126).

Mae dod ār holl englynion hyn ynghyd o fewn yr un clawr yn gymwynas fawr, ond maer diweddariadau lawn mor werthfawr drwy gyflwyno fersiwn diweddar syn seiliedig ar ddysg nifer o ysgolheigion amlycaf ein cyfnod. Diolch, felly, ir golygydd ar diweddarwr am ei sensitifrwydd ac am drylwyredd ei lafur. Mae clawr y gyfrol, o waith deheuig Olwen Fowler, syn seiliedig ar rannau o Lyfr Coch Hergest, yn syber ac addas iawn ir testun.

Gallaf innau gofion ōl, union bum mlynedd a deugain, i dryblith darlithiau Mr Brinley Rees am naw ar fore Gwener yn y Coleg ar y Bryn, pan gawsom, yn ddosbarth o israddedigion, ein cyflwyno gyntaf i dristwch llawer or canu hwn syn sōn am golled, ac syn gipdrem hiraethus yn ōl ar yr hyn a fu. -- Dafydd Ifans @ www.gwales.com

CANU CREFYDDOL
Naw Englyn y Juvencus
Cyntaf Gair
Cynefin Ceinaf Amser
Cynogion. Elaeth a'u Cant
Dryll o Ddadl y Corff a'r Enaid
Cysul Addaon 1
Cysul Addaon 2
Penyd Llywelyn a Gwrnerth 1
Penyd Llywelyn a Gwrnerth 2
Mab Mair
Ymddiddan Arthur a'r Eryr

CANU NATUR A GWIREBAU
Llym Awel
Eira Mynydd
Bidiau 1
Bidiau 2
Y Gnodiau
Calan Gaeaf
Calan Gaeaf ar Misoedd
Baglawg Byddin
Gorwynion
Englynion y Misoedd
Englynion y Clywaid

ENGLYNION SYDD Ā CHYSYLLTIAD Ā CHWEDLAU
Tri Englyn y Juvencus
Englynion Beddau
Dinas Maon
Geraint fab Erbin
Ysgolan
Gwallog ar ydd
Ymddiddan rhwng Gwyddno Garanhir a Gwyn ap Nudd
Ymddiddan Ugnach (neu Wgnach) a Thaliesin
Boddi Maes Gwyddno

CANU LLYWARCH HEN
Gwźn ap llywarch ai Dad
Marwnad Gwźn
Pyll
Llywarch a Maen
Beddau, neu Amryfal Englynion am Feibion Llywarch
Enwau meibion Llywarch
Gwahodd Llywarch i Lanfawr (neu Lanfor)
Cān yr Henwr
Claf Abercuawg

CANU URIEN
Unhwch
Pen Urien
Celain Urien
Anoeth
Efrddyl, neu Efyrddyl
Rhun, neu Marwnad Rhun
Anaf, neu Englyn Crwydr
Dwy Blaid
Elgno, neu Elno
Diffaith Aelwyd Rheged

CANU HELEDD
Cynddylan
Stafell Gynddylan
Eryr Eli
Eryr Penwgern
Eglwysau Basa
Y Dref Wen
Ffreuer
Bugeiles Lom, neu Hel Gwartheg
Afonydd
Newid Byd
Gorwynion
Gyrthmwl
Ercal
Heledd, neu Heledd Hwyedig
Gorsedd Orwynion
Syllu
Dinlleu Frecon
Heledd, neu Brodyr Heledd
Hedyn, Epigram
Caranfael, neu Gwāl Twrch
Heledd ai Brawd Claf
Beddau Maes Maoddyn, neu Beddau
Trenn
Chwiorydd Heledd
Cynddylan a Chynwraith
Maes Cogwy
Llemenig

Englynion Cadwallon -- Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas