Cam Pero ydy'r pecyn cyntaf yn y gyfres ar gyfer dysgwyr iaith gyntaf ac ail iaith. Mae'r pecyn yma'n cynnwys 10 llyfr wedi'u diweddaru ac mewn lliw.
Mae'r eirfa'n datblygu'n raddol er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn cael cyfle i ymarfer, magu hyder a mireinio amrywiaeth o strategaethau darllen cynnar.
Mae'r tudalennau olaf yn cynnwys sbardun trafod unigryw i ymarfer sgiliau llafar ac i ddatblygu dealltwriaeth plant o'r hyn a ddarllenir. -- Cyhoeddwr: Atebol