Cyhoeddir y gyfrol i gyd-fynd gyda chynhyrchiad uchelgeisiol a chyffrous Theatr Genedlaethol Cymru o 'Macbeth' yn ystod Chwefror 2017. Perfformir y ddrama yng Nghastell Caerffili a bydd yn cael ei darlledu'n fyw i sinemau ar draws Cymru fel rhan o fenter newydd Theatr Gen Fyw. Ceir rhagor o fanylion ar wefan Theatr Genedlaethol Cymru. -- Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas