Atnaujinkite slapukų nuostatas

Profiadau Inter Galactig [Minkštas viršelis]

  • Formatas: Paperback / softback, 100 pages, aukštis x plotis: 137x216 mm
  • Išleidimo metai: 25-Oct-2013
  • Leidėjas: Cyhoeddiadau Barddas
  • ISBN-10: 1906396663
  • ISBN-13: 9781906396664
Kitos knygos pagal šią temą:
  • Formatas: Paperback / softback, 100 pages, aukštis x plotis: 137x216 mm
  • Išleidimo metai: 25-Oct-2013
  • Leidėjas: Cyhoeddiadau Barddas
  • ISBN-10: 1906396663
  • ISBN-13: 9781906396664
Kitos knygos pagal šią temą:
The latest collection of poetry by the prolific poet Gwyn Thomas comprising diverse poems about various aspects of everyday life, in its seriousness and joy. -- Cyngor Llyfrau Cymru

Recenzijos

'Profiadau Inter Galactig' yw'r 17fed cyfrol o gerddi i Gwyn Thomas ei chyhoeddi. Bu'n Fardd Cenedlaethol Cymru o 2006-2008, ac mae ei lais mor glir a chroyw ag erioed. O sylwadau smala am y 'Peiriant Llyncu Sana' i ystyried 'Soffas' efo'i wyr i 'Ystyriaethau' mwy oesol, mae'r gyfrol hon yn gampwaith o ddawn dweud Gwyn Thomas wrth iddo bwyso a mesur y ddynoliaeth. -- Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas Aeth dros hanner canrif heibio ers pan gyhoeddwyd Chwerwder yn y Ffynhonnau, cyfrol gyntaf Gwyn Thomas o farddoniaeth. Un peth sy'n dal yn gwbl amlwg heddiw, fel yr oedd y pryd hynny bod gan y bardd hwn ddawn eithriadol i roi teitlau trawiadol i'w lyfrau. Heb amheuaeth, fe lwyddodd Gwyn Thomas, yn well nag unrhyw fardd Cymraeg arall o'i genhedlaeth, i gyfleu sut brofiad fu byw drwy ail hanner yr ugeinfed ganrif a degawd cyntaf yr unfed ganrif ar hugain. O'r dechrau fe ddefnyddiodd iaith sy'n gyhyrog gyfoes a chyffrous. Yn wir, mae rhywbeth am ei fynegiant sy'n gwneud i chi feddwl bod dyfodol i'r iaith Gymraeg tra bydd ef yn dal i ysgrifennu.

Ar gefn y clawr, sydd yn un trawiadol iawn, fe ddywedir bod y bardd, wrth iddo groesawu cenhedlaeth newydd o'i deulu, yn datgan:

fod tywyllwch yn dal i gael ei dorri gan rym disglair y goleuni.

Fe wnaeth Gwyn Thomas gryn enw iddo'i hun oherwydd y cerddi hynny o'i eiddo sy'n edrych ar orfoledd ac odrwydd bywyd trwy lygaid plentyn. Ei blant ef ei hun oedd yr ysbrydoliaeth i'w awen yn nyddiau Enw'r Gair. Bellach, ei wyrion sy'n tanio'r dychymyg. Mae'r wefr a'r doniolwch sy'n rhan o'u bywydau hwy yn cael mynegiant yma mewn cerddi fel 'Milwrol', 'Y Daith', 'Inter Galactig' ac 'Wrth Ddisgwyl am ei Ginio'.

Tra mae gobaith Cristnogol yn brigo i'r wyneb mewn cerddi fel 'Y Tu Hwnt i'r Beddau', rhaid dweud mai'r cerddi tywyll, llai gobeithiol wnaeth yr argraff ddyfnaf arnaf yn y gyfrol hon. Dyma'r cerddi sy'n trafod henaint a marwolaeth a ninnau yn byw 'ar glwyd denau y presennol'. Ond nid dirywiad a thranc yr unigolyn yn unig sy'n mynd ā bryd y bardd.

Mae cerddi mwyaf ysgytwol y gyfrol yn ymwneud ā diflaniad ein diwylliant anghydffurffiol, a marwolaeth yr iaith a'r genedl. Dyna destun cerdd agoriadol y gyfrol, 'Unwaith Eto', ac eraill fel 'Rhwng Deufyd', 'Ein Dad-wneud', 'Mewn Capeli', 'Ystyriwch y Bo', 'Ieithoedd' ac 'Yn Awr':

Y mae'r nos yn cau arnom ninnau yn awr. Fel y bu hi ar lwythau lu mewn canrifoedd a fu, y mae hi felly arnom ninnau yn awr.

Yn awr, y cwbwl sydd yna ar ōl, i ni sydd wedi dangos ein bod yn bobol benderfynol o hunan-ddifaol, ydi ein bodolaeth ni yn y gorffennol.

Cerddi gwleidyddol iawn yw'r rhai hyn ac mae ambell un fel 'Iaith Ryngwladol', 'In a Biwti Sbot in Wales' a 'Cymdeithas yr Iaith Saesneg' yn ddoniol neu'n ddychanol-eironig. Mae eraill, fel 'Gareth Maelor' a 'Diolch, Owi', yn deyrngedau i gyfeillion ymdrechodd i gynnal ein hiaith a'n diwylliant. Ond nid oes dianc rhag y teimlad na wźl y bardd fawr o ddyfodol i'r pethau hynny y rhoddodd ef oes o wasanaeth i'w meithrin. Mae rhywbeth yn ysgytwol yn y modd yr aeth yr awdur i'r afael ār argyfwng enbyd sydd yn ein hwynebu fel Cymry Cymraeg.

Ceir gobaith yma, mae'n wir, ond un brau iawn ydyw. -- Dafydd Morgan Lewis @ www.gwales.com

Unwaith Eto
Iaith Ryngwladol
Fesul Un
In a Biwti Sbot in Wźils
William Morgan
Milwrol
Syrcas
Cyngerdd Nadolig Ysgol Gynradd, 2009
Braidd yn Siabi
Rita yn Hen
Roedd yn y Wlad Honno
Monument Valley
Rhyw Lun o Frwydr
General de Gaulle
Ystyriwch y Bo
Hen Lun
NI a NHW
Diolch
Cymdeithas yr Iaith Saesneg
Swnt Enlli
Peiriant-Llyncu-Sana
Draw Draw yn Tjeina
Cysurwr Job
Taid
Nadolig
Rhwng Deufyd
Ein Dad-wneud
Yr Wyf Fi
Dau o Bethau Pwysig ein Bywydau
Cwm Cynfal
Y Ddinas Gadarn
Hen Blant Bach
Eisag Godebog
Hanes Truenus Iestyn B. Morus
Abel Lloyd
Eros mewn Ystablau
Taro Bargen
Y Tu Hwnt i Feddau
Y Daith yn Ol
Mewn Capeli
Honna
Felna y Gwelwch Chi Hi
Y Bore Hwnnw o Haf
Inter Galactig
Y Daith
Ei Mawrhydi
Hytrach yn Annisgwyl
Wrth Ddisgwyl am ei Ginio
Ieithoedd
Ein Crefydd Ni
Ddim yn Ddealladwy
Yn Awr
Ble Heno, Cecil?
Afradlon
Cwbwl An-naturiol
I Bob Un
1 Ebrill,1401
Ystyriaethau
Yn Fanna
Y mae o?
Soffas
Hen,Hen Bethau
Sursum Corda?
Afal Coch
11 Mai 2013
Gareth Maelor
Diolch, Owi
Yr Adeilad ar y Gyffordd

OR HEN FYD
Yn y Dyddiau Hynny

BYR FEDDYLIO -- Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas