Atnaujinkite slapukų nuostatas

Wilia - Cerddi 2003-2013: Cerddi 2003-2013 [Minkštas viršelis]

  • Formatas: Paperback / softback, 124 pages, aukštis x plotis: 140x216 mm
  • Išleidimo metai: 05-Jun-2014
  • Leidėjas: Cyhoeddiadau Barddas
  • ISBN-10: 1906396701
  • ISBN-13: 9781906396701
Kitos knygos pagal šią temą:
  • Formatas: Paperback / softback, 124 pages, aukštis x plotis: 140x216 mm
  • Išleidimo metai: 05-Jun-2014
  • Leidėjas: Cyhoeddiadau Barddas
  • ISBN-10: 1906396701
  • ISBN-13: 9781906396701
Kitos knygos pagal šią temą:
A collection of poems (2003-2013) by Meic Stephens. -- Cyngor Llyfrau Cymru

Recenzijos

Dyma'r gyfrol gyntaf o farddoniaeth Gymraeg gan Meic Stephens. Dechreuodd Meic Stephens farddoni yn y Gymraeg yn 2003 a daeth yn agos at gipio'r Goron ar sawl achlysur. Mae'r rhan fwyaf o'i gerddi yn defnyddio'r Wenhwyseg, sef tafodiaith y de-ddwyrain. 'Saif ei gerddi,' meddai Dafydd Glyn Jones, 'fel yr ymgais fwyaf estynedig erioed, ar fwyaf llwyddiannus, i roi lle i'r dafodiaith hon mewn llenyddiaeth.' Ceir Geirfa i helpur darllenydd sydd ddim yn gyfarwydd ā hi. Bardd y cymoedd diwydiannol sydd yma. Cyrhaeddodd y gyfrol Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2015 yn y categori Barddoniaeth -- Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas Maen anodd meddwl am unrhyw un sydd wedi gwneud mwy o gyfraniad i feirniadaeth a hanes llenyddiaeth Gymraeg a Chymreig yn ystod yr hanner canrif diwethaf hwn na Meic Stephens. Ac yntau'n feirniad craff, yn hanesydd llenyddol manwl ac yn gofnodwr coffaol dibynadwy, trodd ddeng mlynedd yn ōl at farddoni yn Gymraeg. A chynnyrch y degawd hwnnw yw Wilia.

Yn ystod ei ddyddiau coleg y dechreuwyd gwerthfawrogi awen bryfoclyd Meic a'i ganeuon a'i rigymau crafog Saesneg ar faterion Cymreig. Roedd ef a Harri Webb yn arbennig yn feirdd ffres a dychanol. A Meic, yn dilyn marwolaeth Harri, a fun gyfrifol am ddiogelu gwaith yr athrylith hwnnw. Addas iawn yw bod yma gerdd goffa i Harri, Gweriniaethwr. A honno i mi, cerdd ir dyn dansherus o Ferthyr Tudful, yw un or cerddi mwyaf yn y gyfrol.

Bu Meic wastad yn wahanol ei weledigaeth. A chryfder mawr y casgliad hwn yw ei ddefnydd or Wenhwyseg. Mae hin dafodiaith gydar pertaf syn bod. Yn anffodus, gydag erydiad y Gymraeg rhwng cymoedd Rhymni ac Aman, edwino wnaeth y Wenhwyseg hefyd. Mae gwaith Meic, felly, yn drallwysiad iw groesawu.

Cerddi atgofus am blentyndod a llencyndod y bardd a geir gan mwyaf. Ceir cerddi hefyd yn adlewyrchu ei ymweliadau ā gwledydd tramor. Mae ei ddawn ddisgrifiadol gynnil yn nodweddiadol oi waith mewn cerddi fel Miss Morgans ac O, Gyda Llaw. Ceir yma brofiadau llencyndod syn eich taro yn sgil eu cyfeiriadaeth annisgwyl cerddi fel Lladin a Jeanne. Mae symlrwydd ymddangosiadol rhai or cerddi yn dwyllodrus, gan fod y symlrwydd hwnnwn cuddio dyfnderoedd o deimladau.

Ceir yma ambell gerdd hir, rhai or rheiny wedi dod yn agos at gipio'r Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol. A fu bardd mwy anlwcus erioed na Meic? Yn fy marn i, maer cerddi a fun curo ar y drws yn well na llawer or pryddestau buddugol a wobrwywyd.

Ond ceir nodyn trist. Yn y diolchiadau maen mynnu mair casgliad hwn yw ei gyfrol gyntaf o gerddi yn y Gymraeg ar olaf. Gobeithio y gwnaiff ailfeddwl. Mae ei ddawn farddonol ai dafodiaith bert yn drysorau rhy gain a gwerthfawr iw claddu.

Cyfraniad gwerthfawr ywr eirfa syn rhestru crucun decha o enghreifftiau o eiriau hen dafodiaith y De-ddwyrain. Does yna ddim walu waldod yma na brigawlan nac unrhyw garlinco digyfeiriad. Dim cwafars. Dim fragots. Yn hytrach mae yma gerddi dansherus a decha syn gwneud i rywun ddelffo arnyn nhw. Maer cerddi oll yn biwr digynnig. Yn wir, fe wnes i eu sglaffo nhw. -- Lyn Ebenezer @ www.gwales.com

Gwreiddiau
Blodau

'Cerddi Ryfelwr Bychan'
Yr ęf wnnw
Mynta Dad
Rog ofon
Miss Morgans
Ricwm sgipo
Gresyn
Bwci-bo
Wteri
Sturm und Drang
Bwtsh Mordecai
Omer
Rwpath oi le
Astars
Jiwls
Apocryffa
6 Mehefin 19442004

'Cerddi Whant y Cnawd'
Gair i gall
Linda
Betrys
Sue
Brigitte
Penny
Ann
Mair
Jeanne
Sidonie
Marcharid
Fiona
X
O, gyda llaw
Mrs Gee
Mari
Jonna
Cawod
Miwsig
Y Gr Gwyrdd
Lladin
Amser Ceirios

'Yn y gwaed'
Cymynrodd
Mawn
Glaw
Cerddinen
Ffosydd
Bastard
Atal dweud
Gwirebau
Tom Mosco
Jeanie Rees
Cān yr Henwr
Y gair olaf
Mam
Gwyddel
Brawd
Limwns
Henwr

'Ynys'
Hi,Daf!
Annwyl Jźn
Colsyn
Whedleua
Harbwr
Traserch
Bitsh
Twyllwch
Rhwyd
Gwad
Gwibdaith
Defyn
Pen y daith
Gweriniaethwr
Y Comiwnydd
Tyst
Merthyr -- Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas