Fel daearegydd, bydd Hywel Griffiths yn ymwybodol iawn o rymoedd byd natur. Maen arbenigwr ar y rhewlifoedd hynny a luniodd ein tirwedd gan adael plethwaith o gymoedd dyfnion a dyffrynnoedd eang ar eu hōl. Nid oes ryfedd, felly, mai nentydd ac afonydd yr hafnau hyn sydd yn dyfrhau a ffrwythloni ei awen yntau hefyd. Y gwaddod ar gro mān a gariwyd gan eu llif hyd lawr y dyffryn dros y canrifoedd syn lliwior cerddi.
Fei magwyd ar fferm ir gorllewin o Gaerfyrddin rhwng aberoedd Tywi a Thaf ac mae atgofion melys am gynaeafau bore oes yn cyfoethogir gyfrol; dymai Fern Hill yntau. Yna symudodd ymlaen am lannau Ystwyth gan ennill gradd ddigon da i gael swydd darlithydd yn y Coleg ger y Lli. Yno, wrth edrych allan tua Chantrer Gwaelod, gresynai fod cymaint on cyfoeth diwylliannol o dan y mōr ai donnau. O gofio hyn, maen anochel iw flynyddoedd fel myfyriwr gydredeg ā chyfnod o weithredu brwd dros Gymdeithas yr Iaith ac maer achos yn dal yn agos at ei galon, fel y dengys ei gerdd i Osian, un oi hymgyrchwyr diweddaraf.
Symudodd ymlaen wedyn i Gwm Eleri gydai wraig, Alaw, ac yno yn Nhal-y-bont yr ysgrifennwyd y mwyafrif o gerddir gyfrol hon. Yno y ganwyd y plentyn cyntaf, Lleucu Haf, a hynny ychydig ddyddiau cyn ir llifogydd difrifol daror pentref. Dilynwyd hi gan fab, Morgan Hedd, ac mae ir tri ohonynt le amlwg o fewn y tudalennau.
Weithiau, er hynny, bydd dyn yn mynnu ymyrryd ā llif yr afonydd hyn drwy gronnir dyfroedd heb ystyried bywyd y dyffryn yn ei gyfanrwydd, yn amgylcheddol nac yn gymdeithasol. Maer naturiaethwr ar Cymro ynddo yn dal i gofio Tryweryn a Chwm Elan ac Efyrnwy hefyd.
Ac yntau bellach wedi dychwelyd gydai deulu at lannau Rheidiol yn Llanbadarn Fawr, cawsom atlas o gyfrol ganddo syn mapioi ddatblygiad fel bardd ac fel person. Pleser pur fu cael dilyn afonydd Cymru yn ei gwmni. -- Idris Reynolds @ www.gwales.com