CYFRANWYR Y GYFROL: Un o Gymry Llundain yw Ifor ap Glyn ac mae bellach yn byw yng Nghaernarfon lle maen gweithio fel cynhyrchydd teledu. Ers 2016, ef yw Bardd Cenedlaethol Cymru. Mae Pwyll ap Siōn yn gyfansoddwr ac yn Athro mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor ac mae wedi cyhoeddi ac ymchwilion helaeth ym maes cerddoriaeth boblogaidd o Gymru. Bardd a chynhyrchydd teledu yw Nici Beech. Maen gapten ar dīm Talwrn Criwr Ship, yn awdur llyfr ryseitiau, Cegin, ac yn un o sylfaenwyr a threfnwyr Gyl Fwyd Caernarfon, Gyl Arall a Noson Pedwar a Chwech. Bardd yw Elis Dafydd. Maen awdur cyfrol o gerddi, Chwilio am Dān(Cyhoeddiadau Barddas, 2016) ac ar hyn o bryd maen ymchwilio i waith John Rowlands fel rhan o gwrs doethuriaeth yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor. Bu Hefin Jones yn cadw tafarn T Newydd, Sarn, pan oedd y lle hwnnw yn un o leoliadau gigs mwyaf poblogaidd y gogledd-orllewin. Yn dilyn hynny bun gweithio ir Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig. Maen un o un o gyfarwyddwyr label Sbrigyn Ymborth. Bardd, ymchwilydd a pherfformiwr yw Aneirin Karadog. Bun aelod or Genod Droog a'r Diwygiad ac mae wedi cyfrannu at amryw o albymau cerddorol, gyda Llwybr Llaethog, Cofi Bach a Tew Shady. Bu hefyd yn rhan o brosiect Y Datgyfodiad, a greodd albym gysyniadol am Sombis. Griff Lynch yw prif leisydd Yr Ods. Maen cynhyrchur rhaglen gerddoriaeth, Ochr 1 ar S4C ac ef oedd yn gyfrifol am Canu Protest Merched Mewn Pop (Radio Cymru) oedd yn edrych ar gyfraniad merched ir byd cerddorol Cymraeg a rhyngwladol ar hyd y degawdau. -- Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas Wrth glywed am ddyfodiad y gyfrol yma gyntaf, rhaid cyfaddef mod i wedi gwingo rhywfaint. Mae canu gwleidyddol Cymraeg yn bwnc sydd wedi ei drafod hyd syrffed dros y blynyddoedd, ac roeddwn yn ofni mair un hen drafodaeth flinedig fyddai yma eto yngln ag oes aur y canu protest a sut mae hynny wedi diflannu dros y blynyddoedd diwethaf.
Rhyddhad mawr, felly, oedd darganfod cyfrol oedd yn cynnig dehongliad ychydig bach yn wahanol, a chyfres o gyfraniadau difyr a dadlennol yn trafod beth syn gwneud cān wleidyddol. Ac maer farn yn amrywio.
Ydyn, mae rhai or usual suspects yma, y caneuon amlwg Gwesty Cymru gan Geraint Jarman, Tān yn Lln gan Plethyn ac wrth gwrs Yma o Hyd gan Dafydd Iwan ac Ar Log ond mae hyd yn oed yr ysgrifau am y rhain yn cynnig onglau newydd syn gwneud i chi feddwl eto am eu negeseuon.
Maer fformat yn helpu: y cyfranwyr syn dewis y caneuon maen nhwn eu trafod, yn hytrach na thestun wedii osod gan y golygyddion. Maer blynyddoedd dan sylw yn helpu hefyd, 19792016, cyfnod syn dilyn oes aur y canu protest Cymraeg traddodiadol. Wedi dweud hynny, dyma gyfnod syn pontio dau refferendwm datganoli go wahanol, ynghyd ā dwy lywodraeth Dorļaidd lawdrwm.
Gwir lwyddiant y gyfrol ydyr caneuon annisgwyl syn cyrraedd y rhestr, yn enwedig efallair rhai mwyaf diweddar syn cloir casgliad o ysgrifau. Mae Dyl Mei yn fwy cyfarwydd am ei sylwadau bachog ar raglen Tudur Owen, ond yma mae wedi cyflwyno chwip o ddadansoddiad treiddgar or hit feiral, Talu Bills gan Rodney Evans. Cysylltir canu gwleidyddol Cymraeg yn aml ā brwydr yr iaith, ond mae hon, a sawl ysgrif arall yn y gyfrol, yn dangos bod ystod llawer ehangach gan ein cerddorion.
Ac yna mae darn Nici Beech, yn trafod Cyn ir lle ma gau gan y Bandana, yn dangos sut gall dehongliad y gwrandäwr o gān amrywio. Go brin bod llawer wedi ystyried hon fel cān wleidyddol cyn hyn, ond mae ymdriniaeth ardderchog Nici yn sicr yn gwneud i chi feddwl ddwywaith am neges caneuon.
Dyma lwyddiant y gyfrol i mi maen gwneud i chi feddwl am ganeuon na fyddech chi, efallai, heb lawn ystyried eu neges yn flaenorol, gan hefyd wfftior honiad nad oes sylwebaeth wleidyddol yng nghaneuon ein cerddorion ifanc. -- Owain Schiavone @ www.gwales.com